Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

PAC(4) 16-13 – Papur 2

Diweddariad i Adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus’

 

 

Argymhellion Adroddiad y Pwyllgor

 

 

Y Sefyllfa Bresennol

1

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i fonitro a chyhoeddi y cynnydd y mae’n ei wneud o ran gwella rheoli ariannol ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn rhagweld y bydd hyn yn golygu y caiff arfer da mewn rheoli ariannol ei rannu ar draws y sector cyhoeddus.

 

Mae Is-adran Arweiniad Ariannol Llywodraeth Cymru wedi cael ei sefydlu mewn partneriaeth â Sector Cyhoeddus Cymru. Nodau’r tîm yw gwella sgiliau arwain rheoli ariannol ar gyfer staff ariannol uwch ledled y sector cyhoeddus yng Nghymru a meithrin cymuned o weithwyr ariannol o’r ansawdd gorau yn y sector cyhoeddus, a fydd yn cyfrannu at weddnewid gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Wrth fwrw ymlaen â’r gwaith hwn, rydym yn ymgysylltu’n rheolaidd â’r cyrff cyfrifyddiaeth yng Nghymru.

 

Er mwyn cyflawni hyn, mae’r Is-adran Arweiniad Ariannol yn

  • cyflenwi Rhaglen Arweiniad Ariannol arloesol ac arbenigol i uwch arweinwyr ariannol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn y Rhaglen hon, mae arfer da ym maes arweiniad yn cael ei addysgu ac mae cymorth ar gael i wreiddio’r dysgu yn y gweithle. Rhagwelwn y bydd mwy nag 80 o uwch reolwyr ariannol yn dilyn y rhaglen cyn iddi ddod i ben ym mis Mehefin 2014.
  •  gwella rhwydweithio yng nghymuned gweithwyr ariannol y Sector Cyhoeddus yng Nghymru trwy Gynadleddau Cenedlaethol a Chyfarfodydd Rhanbarthol ddwywaith y flwyddyn yn ogystal ag amrywiaeth o ddigwyddiadau eraill sy’n cefnogi blaenoriaethau aelodau’r rhwydwaith e.e. cynhadledd ar gynaliadwyedd ym mis Chwefror 2013 a fynychwyd gan amrywiaeth o sefydliadau’r gwasanaeth cyhoeddus.
  • ymchwilio i gyfleoedd, a darparu cyfleoedd, ar gyfer cydweithio yn y gymuned hon er mwyn sicrhau gwell gwerth am arian a rhannu arfer gorau ym maes rheoli ariannol. Mae hyn yn digwydd trwy’r cyfarfodydd rhanbarthol a thrwy’r rhaglen arweiniad
  • gwella cyfathrebu ar bynciau o ddiddordeb cyffredin rhwng aelodau o’r rhwydwaith trwy wefan rhwydwaith arweiniad.

Yn unol ag amodau cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop, mae’n ofynnol i’r Is-adran Arweiniad Ariannol fonitro effeithiolrwydd ei holl weithgareddau. Caiff hyn ei adolygu bob chwarter gan WEFO a’i gofnodi trwy WEFO Ar-lein. Mae’r targedau cyflawnadwy allweddol a’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn achos pob gweithgaredd ar gael ar wefan y Rhwydwaith Arweiniad Ariannol sy’n adnodd diogel y gall holl aelodau’r Rhwydwaith ei gyrchu.

 

2

 Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau pellach i annog Awdurdodau Lleol i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i gefnogi gweddnewid, tra’n sicrhau eu bod yn cynnal lefel ddarbodus o gronfeydd wrth gefn er mwyn rheoli risgiau a gofynion yn y dyfodol.

 

Fel y nodwyd yn yr ymateb blaenorol, mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol reoli eu cronfeydd wrth gefn yn unol â gofynion statudol a chanllawiau ac maent yn atebol am y penderfyniadau a wnânt ynghylch y defnydd  ohonynt. Mae Awdurdodau hefyd yn atebol am benderfyniadau ynghylch blaenoriaethu eu hadnoddau ariannol, gan gymryd i ystyriaeth anghenion ac amgylchiadau lleol, a hwy sydd yn y lle gorau i wneud y penderfyniadau hynny.

 

Serch hynny, mae Llywodraeth Cymru’n annog Awdurdodau i fuddsoddi mewn gweithgarwch gweddnewidiol. Ym mis Mawrth 2012, comisiynodd Llywodraeth Cymru Swyddfa Archwilio Cymru i wneud ymchwil benodol i gronfeydd wrth gefn Awdurdodau Lleol. Roedd yr ymchwil wedi’i chynllunio i wella’r gyd-ddealltwriaeth o’r ffordd mae Awdurdodau Lleol yn rheoli cronfeydd wrth gefn i gefnogi eu strategaethau ariannol gan gynnwys gweithgareddau gweddnewid. Mae’r adroddiad terfynol wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru (http://wales.gov.uk/topics/localgovernment/research/lareserve/?skip=1&lang=cy). Mae’n nodi lle i wella’r gwaith o adrodd ar y ffordd y rheolir cronfeydd wrth gefn gan Awdurdodau Lleol. Mae’r canfyddiadau hyn wedi cael eu dosbarthu gan Lywodraeth Cymru i Awdurdodau a chan Swyddfa Archwilio Cymru i’w harchwilwyr. Mae Awdurdodau Lleol wedi cael eu hannog i gydweithio gyda’u harchwilwyr i wella’r gwaith o adrodd ar y ffordd y rheolir cronfeydd wrth gefn trwy bethau fel edrych ar enghreifftiau o arfer gorau.

 

Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth wedi dangos diddordeb byw yn y gwaith hwn a bydd yn ceisio ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol ymhellach ar y mater hwn.

 

3

Rydym yn argymell, yn unol â barn Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fod Llywodraeth Cymru yn dwyn uwch reolwyr Byrddau Iechyd Lleol i gyfrif am eu cyfrifoldebau rheoli ariannol statudol ym mlwyddyn ariannol 2011-2012. Mewn blynyddoedd dilynol, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gosod fframwaith atebolrwydd ariannol i Fyrddau Iechyd Lleol er mwyn hyrwyddo cynllunio ariannol effeithiol a darparu gwasanaethau’n effeithiol yn unol â chyfrifoldebau statudol. Dylai hyn gynnwys gwybodaeth am gymelliadau a chosbau i uwch reolwyr fel sy’n briodol.

 

Ar gyfer blwyddyn ariannol 2012/13 mae’r trefniadau i ddwyn Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau i gyfrif am eu cyfrifoldebau rheoli ariannol wedi cael eu cryfhau trwy Adolygiadau Canol-blwyddyn unigol gyda’r holl Brif Weithredwyr a rhagor o adolygiadau unigol drwy gydol y cyfnod o fis Hydref 2012 i fis Ionawr 2013.  Hefyd mae’r trefniadau Fframwaith Cyflawni a Rheoli Perfformiad wedi cael eu diweddaru i ddilyn dull mwy integredig sy’n cynnwys ansawdd, gweithgarwch, targedau perfformiad a chyllid. 

 

Er bod Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau wedi cael eu hannog i gydweithio i wneud cyfraniad cadarnhaol, mae Llywodraeth Cymru wedi atgoffa Prif Weithredwyr unigol yn barhaus am eu hatebolrwydd am eu perfformiad ariannol eu hunain. Mae Prif Weithredwr GIG Cymru wedi ysgrifennu at yr holl Brif Weithredwyr, gan bwysleisio y bydd methu â chyflawni cyfrifoldebau statudol o ran rheoli ariannol yn arwain at roi barn amodol ar y cyfrifon a chymryd camau pellach.

 

At hynny mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar gyflwyno trefn ariannol newydd i’r GIG sy’n nodi ac yn cryfhau’r trefniadau atebolrwydd yn y dyfodol. Mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar well cynllunio yn y tymor canolig a’r tymor hirach gan integreiddio’r elfennau ariannol, gweithlu a gwasanaeth yn well.  

 

Mae cam cyntaf y dull integredig hwn o gynllunio yn y tymor canolig wedi cael ei weithredu fel rhan o gylch cynllunio 2013/14. Roedd y broses hon yn cynnwys fframwaith ac amserlen cynllunio i gynnwys canllawiau cynllunio, templedi a chyflwyniadau drafft, oedd yn cael eu cefnogi gan gyfarfodydd Cyfarwyddwyr Gweithredol i adolygu a herio cynlluniau drafft ac i gynorthwyo Cyrff Iechyd i roi’r wedd derfynol ar gynlluniau integredig mantoledig.

 

4

Rydym yn argymell bod Byrddau Iechyd Lleol yn cael eu galluogi i wneud defnydd mwy effeithiol o gyllid o’r naill flwyddyn ariannol i’r llall yn yr un modd ag Awdurdodau Lleol. Byddai hyn yn galluogi gwell cynllunio ariannol yn y tymor canolig a’r tymor hirach. 

 

I gynorthwyo â’r dull integredig o gynllunio yn y tymor canolig (y cyfeiriwyd ato wrth ymateb i argymhelliad 3) mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar gynyddu hyblygrwydd ariannol i gynorthwyo â rheoli ariannol cadarn o’r naill flwyddyn ariannol i’r llall. Er y bydd newidiadau i fynd i’r afael â’r cyfyngiadau ariannol blynyddol cyfredol a osodir gan y ddeddfwriaeth bresennol yn cymryd rhywfaint o amser, mae opsiynau y gellir eu gweithredu o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol yn cael eu hystyried. Maent yn cynnwys atebion yn y tymor hirach (Hyblygrwydd Ariannol Cynlluniedig) ac yn y tymor byrrach (Cronfa Froceriaeth y GIG).

 

Mae’r trefniant Hyblygrwydd Ariannol Cynlluniedig yn cael ei ddatblygu i gynorthwyo â chynllunio a’r cylch ariannol yn y tymor hirach a bydd yn darparu hyblygrwydd adnoddau wedi’i gysylltu â chynllun ariannol tymor canolig, integredig, mantoledig a chymeradwy. Rhagwelir y byddai Byrddau Iechyd Lleol yn gofyn am Hyblygrwydd Ariannol Cynlluniedig pan fo Byrddau’n rhagweld y byddent yn profi amrywiadau ariannol o fewn cynllun ariannol 3 blynedd mantoledig. Byddai’r Hyblygrwydd Ariannol Cynlluniedig yn destun proses gwerthuso a chymeradwyo gadarn, gan gynnwys ystyried yr adnoddau fyddai ar gael i gynnal yr hyblygrwydd hwn.

 

Lle bo problemau ariannol a heriau tymor byr penodol yn ystod y flwyddyn na ellir o angenrheidrwydd eu cynllunio neu eu rhagweld yn hawdd, bydd trefniadau hyblygrwydd tymor byrrach yn bodoli. Felly mae trefniant broceriaeth mwy ffurfiol yn ystod y flwyddyn yn cael ei ddatblygu, er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfaoedd hynny lle bo amgylchiadau nas rhagwelwyd efallai’n achosi anawsterau i fyrddau iechyd fantoli eu cyfrifon a chydymffurfio â’u Terfyn Adnoddau statudol presennol.

 

5

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyrff unigol y GIG yn cyhoeddi’r cynlluniau ar gyfer gweddnewid gwasanaethau a’r dadansoddiad sy’n sail i’r cynlluniau hynny, gan gynnwys yr effaith debygol ar gleifion a’r gymuned ehangach.

 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi canllawiau yn nodi’r ffordd y mae’n disgwyl i sefydliadau’r GIG ymgysylltu ac ymgynghori ar gynlluniau ar gyfer gweddnewid gwasanaethau. Yn y canllawiau dywedir:

 

“Wrth reoli newidiadau i wasanaethau, dylai corff GIG: nodi sail resymegol glir ar gyfer newid, wedi’i chefnogi gan achos clinigol sy’n dangos buddion newid a risgiau aros yr un peth.”

 

Mae Cyfarwyddwr Cenedlaethol Law yn Llaw at Iechyd yn cydweithio’n agos gyda Chyfarwyddwr Cenedlaethol y Cynghorau Iechyd Cymuned a Chyfarwyddwyr Llywodraethu Byrddau Iechyd i sicrhau bod yr holl brosesau’n gyson â’r canllawiau cenedlaethol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Fforwm Clinigol Cenedlaethol yn rhoi sicrwydd bod y cynlluniau’n darparu sail ar gyfer cyflenwi gwasanaethau mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy ac yn cyfuno i greu ffordd realistig ac uchelgeisiol ymlaen ym maes gofal iechyd yng Nghymru.

 

Byrddau Iechyd unigol fydd yn gyfrifol am weithredu cynlluniau lleol yn dilyn ymgysylltu helaeth yn lleol ac ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo trwy brosesau llywodraethu priodol y Byrddau. Bydd Llywodraeth Cymru’n monitro’r cynnydd yn fanwl trwy’r trefniadau rheoli perfformiad sy’n bodoli eisoes yn ganolog.

 

Mae’r Cynghorau Iechyd Cymuned yn chwarae rhan hanfodol wrth graffu ar y gwaith o weithredu’r cynlluniau’n lleol a chynorthwyo â’r gwaith hwnnw.

 

6

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r dulliau presennol o rannu arfer da, fel hyrwyddo’r defnydd o Gyfnewid Arfer Da ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru, er mwyn dwyn at ei gilydd mewn ffordd systematig nodweddion arfer da o bob rhan o’r sector cyhoeddus, ac er mwyn sicrhau y gellir trosglwyddo arfer o’r fath mewn ffordd effeithiol i wasanaethau’n lleol.

Mae Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus[1], a’i Raglenni Gwaith Cenedlaethol, yn ysgogi’r gwaith o hybu arfer da trwy amrywiaeth o ddulliau. Mae Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus yn cael ei gadeirio gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths AC.  Mae’n cynnwys uwch arweinwyr sy’n cynrychioli gwasanaethau cyhoeddus ac ardaloedd ledled Cymru (mae Atodiad 1 yn rhoi gwybodaeth am yr aelodau). Er mwyn sicrhau arweiniad gwleidyddol ac atebolrwydd, mae Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus yn cydweithio gyda’r corff statudol, diwygiedig, Cyngor Partneriaeth Cymru, a’i is-grŵp, y Grŵp Cyflawni Diwygio. Mae 4 rhaglen waith genedlaethol sy’n cael eu harwain gan Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus[2].

 

Mae hybu arfer da yn un o elfennau allweddol ein rhaglen i ddiwygio’r gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn dechrau gydag ysgogiad arweiniol cryf; mae’r aelodau wedi ymrwymo i hybu’r gwaith o ledaenu arfer da, gan ddefnyddio eu swyddi fel arweinwyr rhanbarthol a lleol, gan gynnwys hybu ac atgyfnerthu ethos methodolegau gwelliant parhaus megis Dulliau Darbodus, Six-Sigma, Kafka, Meddwl trwy Systemau. Mae hyn yn dal i fod yn nodwedd hanfodol a pharhaus yn ein dull cydarwain o ganfod a rhannu arfer da ar draws y sector cyhoeddus, ac yn arbennig lle bo’r gwaith cyflenwi’n galw am gynnwys mwy nag un sector neu sefydliad.

 

Yn fwy penodol, mae’r rhaglen waith Datblygu Sefydliadol a Gweithredu Argymhellion Simpson yn cynorthwyo â gwaith y Gymuned Ymarfer Gwelliant Parhaus. Mae’r grŵp hwn, a sefydlwyd ym mis Mehefin 2012, yn meithrin rhwydwaith ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i gyd-ddatblygu’r gallu i fwrw ymlaen â gweithgareddau gwelliant parhaus, gan gynnwys Dulliau Darbodus. Ar hyn o bryd mae’n datblygu gwefan sy’n cynnwys astudiaethau achos gwelliant parhaus o bob rhan o’r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal â darparu dolenni i wybodaeth berthnasol sy’n bodoli eisoes yng Nghymru megis Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru a gwefan Arfer Da Cymru.

 

Defnyddiodd rhaglen waith Gwasanaethau Effeithiol i Grwpiau Agored i Niwed rwydwaith y Byrddau Gwasanaethau Lleol i rannu gwersi ar waith ’10,000 o Fywydau Diogelach’ wrth leihau trais domestig. Achubodd Byrddau Gwasanaethau Lleol ar y cyfle i ystyried a thrafod gwaith y prosiect pwysig hwn ac ystyried sut y gellid ystyried y gwersi yn eu maes hwythau.

 

Mae rhaglen waith Gwasanaethau Effeithiol i Grwpiau Agored i Niwed hefyd wedi defnyddio’r Knowledge Hub i gynorthwyo ymarferwyr i gydweithio ar lein. Y Knowledge Hub yw olynydd menter lwyddiannus Communities of Practice for Public Service a gynhaliwyd gan yr Improvement and Development Agency (IDeA) ac sydd bellach yn rhan o’r LGA yn Lloegr. Mae Arfer Da Cymru, a gynhelir gan GLlLC, yn ymwybodol o’r Knowledge Hub ac ar hyn o bryd mae’n cyfeirio pobl ato yn hytrach na cheisio ei ddyblygu yng Nghymru. Mae’r rhaglen hon hefyd wedi defnyddio sianelau cyfathrebu arloesol, megis webinarau (gan gydweithio gyda’r Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol) i godi ymwybyddiaeth o ddulliau effeithiol sy’n bodoli neu sy’n cael eu datblygu ledled Cymru.

 

Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r rhan Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus o’n gwefan[3] i gysylltu â gwefannau perthnasol sy’n hybu arfer da, megis y Gyfnewidfa Arfer Da. Mae’r porthol hwn yn cyfeirio at fwy na 2000 o astudiaethau achos arfer da ac yn cael rhwng 6,000 a 10,000 o drawiadau bob mis.

 

7

Rydym yn argymell bod y Grŵp Arwain Gwasanaethau Cyhoeddus yn adnabod yr enghreifftiau o arfer da y mae’r heddlu a’r gwasanaethau tân ac achub wedi eu gweithredu i ddarparu gwasanaethau o fewn y gyllideb, ac yn dysgu oddi wrthynt a’u hyrwyddo, a’i fod yn gwneud defnydd da o gydweithredu ac yn cyflawni newid gweddnewidiol.

Mae’r Heddlu a’r Gwasanaethau Tân ac Achub yn parhau i chwarae rhan flaenllaw yn y rhaglenni gwaith cenedlaethol a rhwydweithiau arwain rhanbarthol Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus. Fel rhan o raglen waith Gwasanaethau Effeithiol i Grwpiau Agored i Niwed rydym yn datblygu dull o rannu profiadau’r Gwasanaeth Tân wrth gofnodi’r buddion i’r gwasanaeth sy’n deillio o’i weithgareddau atal.

 

Mae cynrychiolydd o’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, a benodwyd yn ddiweddar, hefyd wedi ymuno â’r Grŵp Cyflawni Diwygio. Bydd yr ychwanegiad hwn yn golygu y bydd yr arweinwyr gwleidyddol hynny’n cael eu cynnwys yn gryfach byth yn y gwaith a wneir yn y gwasanaethau brys, gan fod y gwasanaethau brys yn cydgysylltu eu cydweithrediad eu hunain trwy Gyd-grŵp Gwasanaethau Brys sy’n cael ei gadeirio gan Brif Gwnstabl.

 

Mae’r gwasanaethau brys hefyd yn defnyddio eu profiadau i lywio’r gwaith o ddatblygu arfer da wrth gymhwyso gwelliant parhaus, gan chwarae rhan weithredol yn y Gymuned Arfer a sefydlwyd o dan y rhaglen waith Datblygu Sefydliadol a Gweithredu Argymhellion Simpson.

 

Mae’r Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol, a sefydlwyd yn ddiweddar, wedi cael nifer o gynigion sy’n cynnwys y gwasanaethau brys ac sy’n golygu cydweithredu ar draws y gwasanaeth cyhoeddus ehangach. Er enghraifft, mae Gogledd Cymru wedi cyflwyno cais Atal Masnachu mewn Pobl, sy’n cynnwys yr heddlu, y gwasanaeth tân ac achub, y bwrdd iechyd ac awdurdodau lleol. Bydd y prosiectau hyn yn caniatáu i fodelau o arfer da gael eu datblygu a’u rhannu’n ehangach er mwyn ad-drefnu ac integreiddio gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl yn well. Bydd y gwaith hwn, ochr yn ochr â gwaith y rhaglen Gwasanaethau Effeithiol i Grwpiau Agored i Niwed, yn arddangos dulliau newydd i rannau eraill o Gymru ac i feysydd eraill Diogelu a Diogelu’r Cyhoedd.

 

Un enghraifft benodol o fan lle mae’r gwasanaethau brys wedi cymryd yr awenau yw yng Ngwent lle mae’r heddlu wedi arwain prosiect amlasiantaethol, a lansiwyd ym mis Mawrth 2013, i gyflenwi ffordd well o ymateb i blant a phobl ifanc sy’n mynd ar goll dro ar ôl tro. Nid yn unig mae’r prosiect hwn yn cynnig buddion gwirioneddol i ddefnyddwyr gwasanaethau, ond hefyd mae yna fuddion ariannol i’r math hwn o arfer da – mae ymateb i un plentyn yn mynd ar goll dro ar ôl tro yn gallu costio cannoedd o filoedd o bunnoedd i wasanaethau cyhoeddus. Mae’r dadansoddiad a wnaethpwyd yng Ngwent yn amcangyfrif cost o fwy na £2 miliwn y flwyddyn i sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yng Ngwent, mewn cysylltiad â phobl sydd ar goll.

 

8

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo model Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer lleihau costau ymhlith yr holl wasanaethau cyhoeddus i’w helpu i leddfu effeithiau’r toriadau a chydweithio i ystyried blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi Swyddfa Archwilio Cymru wrth iddi hyrwyddo ei model lleihau costau. Rydym wedi sicrhau bod dolenni i Ganllaw i Leihau Costau Swyddfa Archwilio Cymru ar gael ar rannau perthnasol o wefan Llywodraeth Cymru, er enghraifft ar y dudalen we Gwella’r Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Yn ychwanegol mae’r Rhwydwaith Arweiniad Ariannol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i wella arweiniad ariannol ar draws y sector cyhoeddus trwy weithio fel cymuned i gyd-ddysgu a chyd-ddatblygu technegau arweiniad ariannol i weddnewid gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn hybu model Swyddfa Archwilio Cymru gan gyfeirio pobl ato ar ei wefan. Mae cynhadledd genedlaethol chwe-misol y Rhwydwaith Arweiniad Ariannol (fydd yn digwydd ym mis Hydref 2013) yn cael ei chyd-gynnal gyda Swyddfa Archwilio Cymru ac yn darparu cyfle da arall i atgyfnerthu’r defnydd o’r model hwn.

 

9

Rydym yn argymell bod y Grŵp Arwain Gwasanaethau Cyhoeddus yn adeiladu ar y cynnydd a wnaeth y Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi drwy sicrhau bod yr arfer da a nodwyd drwy’r meddylfryd Darbodus/Systemau a dull y Kafka Brigade yn cael ei hyrwyddo’n frwd ar draws y sector cyhoeddus.

Mae hybu methodolegau gwelliant parhaus yn un o egwyddorion allweddol Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus a’i raglenni gwaith cenedlaethol.

 

Bu i ddull y Kafka Brigade ddylanwadu’n uniongyrchol ar y prosiect “10,000 o Fywydau Diogelach”, a adeiladodd ar y gwersi o’r prosiectau dan arweiniad y Kafka Brigade yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Chasnewydd i nodi arfer gorau yn y ffordd mae sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yn ymateb i ddioddefwyr posibl camdriniaeth ddomestig. Nododd y prosiect set o ‘safonau gofynnol’ a chwestiynau allweddol y dylai staff y rheng flaen eu gofyn.

 

Yn ehangach mae egwyddorion Kafka, sef gwella gwasanaethau trwy edrych arnynt o safbwynt defnyddiwr gwasanaethau, yn greiddiol i raglen waith Gwasanaethau Effeithiol i Grwpiau Agored i Niwed Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus. O dan y rhaglen waith hon mae yna brosiect sy’n edrych yn benodol ar hybu mabwysiadu dull ‘cymorth dan gyfarwyddyd y dinesydd’ o gyflenwi gwasanaethau. Bu i brosiect arall oedd yn ceisio gwella’r ymateb i blant sy’n mynd ar goll yn gwneud gwaith ymgysylltu helaeth gyda defnyddwyr gwasanaethau (pobl ifanc a’u gofalwyr) er mwyn creu darlun o’r arferion presennol. Mae safbwyntiau’r bobl ifanc wedi cael dylanwad mawr ar y dull newydd, gan gynnwys comisiynu gwasanaeth ôl-drafodaeth annibynnol newydd.

 

Fel y nodwyd yn yr ymateb i argymhelliad 6, mae’r rhaglen waith Datblygu Sefydliadol a Gweithredu Argymhellion Simpson wedi hybu creu cymuned ymarfer genedlaethol ar gyfer ymarferwyr gwelliant parhaus. Mae’r gwaith hwn, sy’n cael ei gefnogi gan raglenni dysgu Academi Wales o eiddo Llywodraeth Cymru, yn cynnwys ymarferwyr arbenigol o bob rhan o Wasanaeth Cyhoeddus Cymru. Mae’r grŵp yn adeiladu llyfrgell o ymyriadau system a gyflawnwyd ac yn datblygu astudiaethau achos i nodi’n glir y canlyniadau a’r gwersi a ddysgwyd o’r ymyriadau hyn er mwyn hybu dysgu ac arfer da. Un enghraifft o arfer da sydd wedi cael ei rannu eisoes ymysg y grŵp yw honno o’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Ar y cyd gyda phartneriaid sy’n awdurdodau lleol, ailgynlluniodd ei broses ar gyfer ymgynghori ar reoliadau adeiladu. Wrth wneud hynny llwyddodd i wella’r gwasanaeth yr oedd yn ei gynnig, ac ar yr un pryd sicrhau gostyngiad o oddeutu 75% yng nghost pob ymyriad.

 

Mae Academi Wales yn cynorthwyo â’r gwaith o ddatblygu rhaglen dysgu a datblygu achrededig i gynorthwyo ymarferwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u cymwyseddau gwelliant parhaus er mwyn gwella systemau. Mae’r Gymuned Ymarfer yn cynnal cynhadledd genedlaethol ym mis Medi i hybu’r methodolegau hyn ymhellach.

 

10

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn monitro’n gadarn berfformiad ei model ar gyfer cydweithio rhanbarthol. Rydym yn credu y dylai unrhyw fodel sicrhau bod cynghorwyr a dinasyddion yn ganolog i drafodaethau ar y ffordd y mae gwasanaethau lleol yn cael eu darparu a bod llywodraethu ac atebolrwydd priodol.

Mae’r patrwm Cydweithredu Rhanbarthol wedi’i hen sefydlu ac yn cael ei atgyfnerthu gan fod aelodaeth gynrychioladol Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus a’r Cyngor Partneriaeth ar y sail honno.

 

Mae adborth uniongyrchol wedi awgrymu bod arweinwyr, swyddogion gweithredol a swyddogion y gwasanaeth cyhoeddus wedi cydnabod yr angen i gydweithredu a’u bod yn gweithredu ar y sail hon fwyfwy, gan fynd ati i chwilio am gyfleoedd i gydweithio.

 

Bu i’r Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2012, atgyfnerthu cydweithredu ar y patrwm, trwy ofyn am i geisiadau gael eu cyflwyno ar fap y patrwm gan yr arweinwyr rhanbarthol. Mae ceisiadau wedi cael eu cyflwyno i gyflawni amrywiaeth o brosiectau gwirioneddol gydweithredol ar draws y gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, heddlu a’r gwasanaeth tân ac achub, ochr yn ochr ag Awdurdodau Lleol. Gan fwyaf mae’r prosiectau hyn wedi’u llunio ar sail y patrwm. Caiff prosiectau eu gwerthuso’n unigol, a bydd eu heffaith fel cyfanwaith hefyd yn cael ei hasesu, er mwyn ystyried effeithiolrwydd y gronfa wrth ysgogi agenda fwy cydweithredol. Mae’r Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol wedi ystyried prosiectau i wella gwasanaethau a chydnerthedd, yn ogystal â sicrhau buddion ariannol. Er enghraifft, mae prosiect Caerdydd a’r Fro i ailfodelu Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a’u hintegreiddio gydag iechyd wedi canfod arbedion dangosol o oddeutu £2.5miliwn yn y tair blynedd gyntaf. Bydd hyn yn caniatáu i’r rhanbarth ateb y cynnydd yn y galw, y disgwylir iddo fod yn 4-8%, yn well.

 

Mae’r gwaith o dan raglen Datblygu Sefydliadol a Gweithredu Argymhellion Simpson Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus wedi annog ardaloedd i ystyried pa mor briodol yw symud gwasanaethau i batrwm rhanbarthol neu genedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio gyda Llywodraeth Leol i sicrhau bod modelau llywodraethu priodol yn cael eu creu i gefnogi cydweithredu lleol, rhanbarthol a chenedlaethol effeithiol. Mae Rheoliadau a fydd yn caniatáu sefydlu cydbwyllgorau trosolwg a chraffu o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn cael eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn gynnar ym mis Mai 2013 ac, os bydd y Cynulliad yn eu cymeradwyo, byddant yn dod i rym yn hwyr ym mis Mai 2013. Bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu cefnogi gan ganllawiau statudol.

 

Mae’r Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys cyfres o ddiwygiadau ac adolygiadau i gryfhau’r broses o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus effeithlon, effeithiol a hygyrch. Sefydlwyd y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus i ddarparu cyngor awdurdodol allanol ar sut i symud ymlaen o ran llywodraethu a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus er mwyn ymateb i ddisgwyliadau ac anghenion pobl. Bydd yn darparu cyfle i’r rheiny sy’n ymwneud â chyflenwi gwasanaethau, y rheiny sy’n atebol yn wleidyddol amdanynt, a’r rheiny sy’n eu defnyddio, i edrych ar y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu llywodraethu; hynny yw, eu dal i gyfrif am eu perfformiad a’u cyflenwi yn y ffordd fwyaf effeithiol i’r cyhoedd.

 

11

Rydym yn argymell bod y Swyddog Cyfrifyddu yn rhoi diweddariad i ni o fewn 12 mis ar y cynnydd o ran cyflawni argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol a’n hargymhellion ni .

Mae’r ymateb cyfredol hwn yn bodloni’r argymhelliad hwn.

 

Argymhellion Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

 

Y Sefyllfa Bresennol

1

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Grŵp Arwain  Gwasanaethau Cyhoeddus newydd yn lle'r Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi i'r sector cyhoeddus cyfan. Roedd y Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi wedi llwyddo i ddwyn ynghyd arweinwyr yn y sector cyhoeddus i nodi gwahanol ffyrdd o dorri

costau a gwella gwasanaethau a'u mabwysiadu. Wrth ddatblygu gwaith y Grŵp Arwain Gwasanaethau Cyhoeddus, dylai Llywodraeth Cymru adeiladu ar yr ymrwymiad hwn i sicrhau ei bod yn parhau i gynnwys pob rhan o wasanaeth cyhoeddus Cymru a rhanddeiliaid allweddol yn llawn.

 

Mae Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus a’i raglenni gwaith ac is-grwpiau cysylltiedig yn parhau i ysgogi’r gwaith diwygio’r gwasanaeth cyhoeddus. Mae cynrychiolwyr o bob rhan o’r gwasanaeth cyhoeddus yn chwarae rhan weithredol wrth hybu gwelliant gwasanaethau a gwell cydnerthedd a sicrhau arbedion cost.

 

Mae rhanddeiliaid o bob rhan o’r sector cyhoeddus yn cymryd rhan yng ngwaith y Grŵp Cyflawni Diwygio a Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus a’i raglenni gwaith ac is-grwpiau. Mae hyn yn cynnwys cynrychiolwyr uwch o Lywodraeth Leol; Byrddau Iechyd; y Gwasanaeth Tân ac Achub; a’r Heddlu. Yn ogystal, mae’r trydydd sector hefyd yn bartneriaid mewn llawer o’r gwaith hwn.

 

2

Gweddnewid yw'r ymateb cynaliadwy i doriadau ariannol. Mae angen i bob gwasanaeth cyhoeddus barhau i ddod o hyd i ffyrdd o newid sut y darperir gwasanaethau fel y gallant wella ansawdd a chanlyniadau ar gost is. I'r perwyl hwn, dylai gwasanaethau cyhoeddus edrych ar waith y Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi, yn enwedig y gwaith ar fodelau gwasanaeth newydd a gweddnewid busnes, fel ffynhonnell o ddulliau ymarferol o wella gwasanaethau. Yn benodol:

·   Mae'r Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi wedi datblygu rhaglen waith genedlaethol ar dechnegau gwella busnes megis meddylfryd darbodus/ meddylfryd systemau. Mae'r dulliau hyn yn cael eu mabwysiadu'n fwyfwy mewn gwasanaethau cyhoeddus. Ar hyn o bryd, mae llawer o wasanaethau cyhoeddus yn dibynnu ar gymorth gan ymgynghorwyr allanol. Wrth ddatblygu gwaith y Grŵp Arwain Gwasanaethau Cyhoeddus, dylai Llywodraeth Cymru ystyried opsiynau i ddatblygu'r gallu a'r sgiliau yn y sector cyhoeddus mewn technegau gwella busnes, gan adeiladu ar y gwaith sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn, gan gynnwys canfyddiadau adolygiad y Ganolfan Ymchwil i Fenter Ddarbodus (LERC) a gomisiynwyd ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru a'r Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi.

·   Mae angen i wasanaethau cyhoeddus ddechrau dysgu oddi wrth ei gilydd yn well, a newid mewn gwirionedd o ganlyniad i hynny. Byddai trosglwyddo gwybodaeth ac arfer yn y fath fodd yn ei gwneud yn bosibl i fanteision ehangach gael eu sicrhau drwy'r gwaith ar Fodelau Newydd o Ddarparu Gwasanaethau. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill i ddatblygu fframwaith cenedlaethol clir ar gyfer nodi a chyfnewid arfer da. Mae angen ymrwymiad hefyd ymhlith gwasanaethau cyhoeddus i newid mewn gwirionedd, drwy fabwysiadu neu addasu ffyrdd newydd o weithio, a fframwaith i gefnogi sefydliadau wrth iddynt fynd drwy'r broses o newid ac arbrofi.

Fel y nodwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion 6 a 9, mae’r Gymuned Ymarfer Gwelliant Parhaus, a sefydlwyd o dan ffrwd waith Datblygu Sefydliadol a Gweithredu Argymhellion Simpson, yn ysgogi’r gwaith hwn. Er enghraifft, mae wedi sefydlu rhwydwaith o ymarferwyr gwelliant parhaus yng Nghymru, sydd â mwy na 150 o aelodau o bob rhan o’r gwasanaeth cyhoeddus. Mae’n datblygu llyfrgell o ymyriadau system i Gymru er mwyn rhannu gwersi a ddysgwyd a datblygu sgiliau oddi wrth ei gilydd. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan ymweliadau rhaglen ‘Arfer Gorau ar Waith’ lle gall ymarferwyr ymweld â gwaith a wnaed mewn ardaloedd eraill a dysgu oddi wrtho. Mae’r Gymuned Ymarfer hefyd yn cynnig rhwydwaith cymorth gan gydweithwyr lle gall sefydliadu baru i gynnig mentora a chymorth wrth i sefydliadau fynd trwy brofiadau tebyg.

 

Yn ychwanegol, mae Academi Wales yn cefnogi’r Gymuned Ymarfer ac yn sefydlu rhaglen dysgu a datblygu achrededig i ddatblygu sgiliau ymarferwyr mewnol a thrwy hynny’n lleihau’r ddibyniaeth ddianghenraid ar ymgynghorwyr allanol.

 

3

Mae angen hefyd i wasanaethau cyhoeddus achub ar gyfleoedd i wneud arbedion yn eu trafodion, yn enwedig drwy brosesau caffael gwell a rheoli tir ac adeiladau'n well. Dylai pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru gefnogi'r dulliau addawol a ddatblygwyd drwy'r Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi, sydd bellach yn rhan o gylch gwaith y Grŵp Arwain  Gwasanaethau Cyhoeddus newydd, a'u hystyried.

 

Sefydlwyd dwy raglen waith o dan Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus i ystyried a mynd i’r afael â’r meysydd hyn yn benodol.  

 

Nod y rhaglen waith Rheoli Asedau, sy’n cael ei chadeirio gan Helen Paterson (Prif Weithredwr Wrecsam), yw canfod, hybu a chefnogi datblygiad dulliau cydweithredol trwy fabwysiadu arferion rheoli mwy effeithiol ac effeithlon er mwyn rhyddhau’r potensial am arbedion o ystadau’r sector cyhoeddus ehangach. Er enghraifft, mae’r Grŵp wedi datblygu’r prosiect ‘e-PIMS lite’ – cronfa ddata ganolog o eiddo a thir Ystad Sifil Ganolog y Llywodraeth. Gall defnyddwyr leoli/gweld eiddo unigol ar fap electronig, cyrchu a newid eu manylion eiddo craidd ar lein, a gofyn i’r system ganfod lle gwag. Defnyddiwyd e-PIMS yn ddiweddar wrth drosglwyddo Y Lanfa yn Aberystwyth.  Arweiniodd at werthu eiddo nad yw Llywodraeth Cymru ei angen, gan ddileu ei rhwymedigaeth ariannol o £1.6 miliwn dros 6 mlynedd, ac ar yr un pryd sicrhau lle i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i’w galluogi i ddarparu Canolfan Cyfiawnder ar gost fforddiadwy.

 

Mae’r Protocol Trosglwyddo Tir, a ddatblygwyd gan y rhaglen waith Rheoli Asedau, yn ganllaw i arfer da ar gyfer trosglwyddo neu werthu tir rhwng cyrff cyhoeddus. Mae mwy na 30 o gyfarwyddiadau wedi cael eu cyhoeddi hyd yma o dan y porthol, gydag arbedion uniongyrchol o £100,000 mewn ffioedd, ar amcangyfrif.

 

Mae’r Grŵp hefyd wedi datblygu ‘Find Me Some Government Space’, sef cronfa ddata o ystafelloedd cyfarfod y sector cyhoeddus. Ei nod yw ei gwneud yn bosibl rhannu a bwcio ystafelloedd cyfarfod a chynadledda ar draws sector cyhoeddus Cymru, gan wneud defnydd gwell a mwy effeithlon o adeiladau a chyfleusterau’r sector cyhoeddus ar draws Cymru a helpu i leihau costau. Mae’r Grŵp hefyd yn edrych ar reoli fflyd fel maes arall lle gellir sicrhau arbedion effeithlonrwydd. Mae yna dystiolaeth y gall gwell rheoli fflyd gynnig arbedion ariannol sylweddol heb unrhyw effaith andwyol ar wasanaethau. Mae gwaith cychwynnol sy’n cael ei wneud yng Ngogledd Cymru’n awgrymu y gellid arbed oddeutu £3 miliwn yn y rhanbarth hwnnw’n unig.

 

Mae Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus wedi hyrwyddo caffael cydweithredol yng Nghymru o dan ei ffrwd waith Caffael, dan arweiniad Jon House (Prif Weithredwr Caerdydd). Datblygodd achos busnes cymhellol dros greu Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i brynu gwariant cyffredin ac ailadroddus ‘unwaith dros Gymru’. Bydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, sydd newydd gael ei sefydlu, yn weithredol ym mis Tachwedd 2013. Bydd mwy na saith deg o sefydliadau’r sector cyhoeddus yn defnyddio’r gwasanaeth, gan gynnwys Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, Prifysgolion, Colegau, Awdurdodau Tân, Heddluoedd a Llywodraeth Cymru ei hun. Bydd yn sefydlu a rheoli contractau i ymdrin â rhyw 20-30% o holl wariant sector cyhoeddus Cymru, gan wneud y defnydd gorau o sgiliau prin ac arbed hyd at £25 miliwn y flwyddyn. Caiff hyn ei gyflawni trwy fanteisio ar raddfa a phŵer prynu cyfun sector cyhoeddus Cymru a safoni manylebau ar draws defnyddwyr. Yn ogystal â sicrhau arbedion effeithlonrwydd bydd yn canfod cyfleoedd i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol.

 

4

Cymaint yw'r heriau ariannol yn y tymor byr efallai y bydd angen i rai gwasanaethau cyhoeddus ystyried lleihau lefel neu ansawdd rhai gwasanaethau. Dylai gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru gydweithio wrth gynllunio toriadau, ac wrth fonitro effeithiau ar ddefnyddwyr gwasanaethau, canlyniadau ehangach a gwasanaethau cyhoeddus eraill a'u lleddfu.

Mae Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus a’r Grŵp Cyflawni Diwygio’n dwyn ynghyd arweinwyr profiadol o bob rhan o’r gwasanaeth cyhoeddus i ymdrin â’r her ariannol sydd o’n blaen. Mae’r ymagwedd hon yn helpu i wneud cynnydd pwysig, yn arbennig mewn perthynas ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol lle mae pwysau ariannol yn cael eu gwaethygu gan y galw cynyddol oherwydd pwysau demograffig.

 

Mae sefydliadau eisoes yn cydweithio er mwyn rheoli’r her ariannol sydd o’n blaen. Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi eu hymdrechion trwy'r Gronfa Buddsoddi i Arbed a’r Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol. Mae’r rhain wedi cefnogi cynigion ar gyfer prosiectau arloesol i liniaru effaith pwysau ariannol trwy weddnewid y ffordd y cyflenwir gwasanaethau; sicrhau arbedion effeithlonrwydd a/neu wella cydnerthedd gwasanaethau mewn meysydd megis iechyd a gofal cymdeithasol ac addysg.

 

Yn y 12 mis diwethaf, mae Byrddau Gwasanaethau Lleol wedi cryfhau eu rôl strategol fel y fforwm ar gyfer arweiniad traws-sectorol ar integreiddio’n lleol, gan ddarparu cysylltiad clir â phrosesau democrataidd lleol. Mae pob ardal ond un bellach wedi mabwysiadu Cynlluniau Integredig Sengl, sy’n cynnwys canlyniadau statudol iechyd, gofal cymdeithasol a lles, wedi’u seilio ar asesiadau anghenion strategol integredig a gomisiynwyd ar draws nifer o sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus i lywio eu gwaith wrth gydgynllunio’r ffordd y caiff gwasanaethau eu cyflenwi. Mae’r Byrddau Gwasanaethau Lleol yn chwarae rôl hanfodol wrth roi dilysrwydd lleol i fodelau comisiynu rhanbarthol, gan sicrhau bod dadansoddiad trylwyr o’r angen lleol yn eu llywio, y cânt eu rhoi mewn cyd-destun ehangach o integreiddio trwy Gynlluniau Integredig Sengl (er enghraifft gyda materion yn ymwneud â diogelwch cymunedol a mynediad i wasanaethau) a bod aelodau etholedig yn craffu ar y gwaith cyflenwi.

 


 

Atodiad 1

 

Aelodaeth Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus Llywodraeth Cymru

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (Cadeirydd)

Lesley Griffiths AC

Cyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Leol a Chymunedau

June Milligan

Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Sgiliau

Owen Evans

Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant

David Sissling

Cyfarwyddwr Cyffredinol Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad

Michael Hearty

Cadeiryddion Rhaglenni Cenedlaethol

Datblygu Sefydliadol a Gweithredu Argymhellion Simpson

Jack Straw (Abertawe)

Rheoli Asedau

Helen Paterson (Wrecsam)

Caffael

Jon House (Caerdydd)

Gwasanaethau Effeithiol i Grwpiau Agored i Niwed

Andrew Goodall (Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan)

Cadeiryddion Cydweithredu Rhanbarthol

Rhanbarth Gogledd Cymru

Mohammed Mehmet (Sir Ddinbych)

Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru

Mark James (Sir Gâr)

Rhanbarth Bae Abertawe

Steve Phillips (Castell-nedd Port Talbot)

Rhanbarth Gwent

Paul Matthews (Sir Fynwy)

Rhanbarth Caerdydd a’r Fro

Sian Davies (Bro Morgannwg)

Rhanbarth Cwm Taf

Peter Vaughan (Heddlu De Cymru)

Partneriaid Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus

Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru (Sylwedydd)

Martin Mansfield

Archwilydd Cyffredinol Cymru (Sylwedydd)

Huw Vaughan Thomas

CLlLC

Steve Thomas

Cymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr Awdurdodau Lleol Cymru

Jeremy Patterson 

CGGC

Graham Benfield

 



[1]  http://wales.gov.uk/topics/improvingservices/pslg/?skip=1&lang=cy

 

[2] Mae 4 rhaglen waith genedlaethol y mae Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus yn eu harwain:

·       Gweithgor Rheoli Asedau Cenedlaethol (sy’n cael ei gadeirio gan Helen Paterson, Prif Weithredwr Wrecsam) -Gwneud defnydd mwy effeithiol ac effeithlon o’r ystad gwasanaeth cyhoeddus, sy’n werth biliynau o bunnoedd.

·       Caffael (sy’n cael ei gadeirio gan Jon House, Prif Weithredwr Caerdydd) - Trawsnewid y ffordd y mae’r gwasanaethau cyhoeddus yn caffael ac yn comisiynu nwyddau a gwasanaethau. Mae hyn yn werth £4.3 biliwn y flwyddyn ar hyn o bryd.

·       Datblygu Sefydliadol a Gweithredu Argymhellion Simpson (sy’n cael ei gadeirio gan Jack Straw, Prif Weithredwr Abertawe) - Gweithredu argymhellion Adolygiad Simpson a datblygu dulliau gweithredu i helpu i wireddu newidiadau a datblygiadau sefydliadol ehangach ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

·       Gwasanaethau Effeithiol i Grwpiau Agored i Niwed (sy’n cael ei gadeirio gan Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan) - Sicrhau bod arloesedd llwyddiannus ac arferion da yn cael eu mabwysiadu yn y brif ffrwd.

 

[3]  http://wales.gov.uk/topics/improvingservices/external-links/?skip=1&lang=cy